Psalms 114

Cân y Pasg

1Pan aeth pobl Israel allan o'r Aifft –
pan adawodd teulu Jacob y wlad
lle roedden nhw'n siarad iaith estron –
2daeth Jwda yn dir cysegredig,
ac Israel yn deyrnas iddo.
3Dyma'r Môr Coch
114:3 Môr Coch Hebraeg, “Môr y Brwyn”.
yn eu gweld nhw'n dod
ac yn symud o'r ffordd.
Dyma lif yr Iorddonen yn cael ei ddal yn ôl.
4Roedd y mynyddoedd yn neidio fel hyrddod,
a'r bryniau yn prancio fel ŵyn.
5Beth wnaeth i ti symud o'r ffordd, fôr?
Beth wnaeth dy ddal di yn ôl, Iorddonen?
6Beth wnaeth i chi neidio fel hyrddod, fynyddoedd?
Beth wnaeth i chi brancio fel ŵyn, fryniau?
7Cryna, ddaear, am fod yr Arglwydd yn dod!
Mae Duw Jacob ar ei ffordd!
8Y Duw wnaeth droi'r graig yn bwll o ddŵr.
Do, llifodd ffynnon ddŵr o garreg fflint!
Copyright information for CYM